CYNGOR TREF BAE COLWYN

BAY OF COLWYN TOWN COUNCIL

  Cymorthdaliadau Grants
SMALL / LARGE GRANTS FOR VOLUNTARY ORGANISATIONS/GRANTIAU BACH / MAWR I FUDIADAU GWIRFODDOL                     

CANLLAWIAU CYNGOR TREF BAE COLWYN WRTH YSTYRIED CEISIADAU AM GYMORTH ARIANNOL GAN FUDIADAU GWIRFODDOL AC ELUSENNOL  

1.       Bydd pob Cais yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Polisi a Chyllid.  

2.       Rhaid i bob cais am dros £500, i’w ddyfarnu fel grant yn y flwyddyn ariannol ganlynol (wedi 1af Ebrill), cael ei dderbyn gan y Cyngor erbyn 31ain Rhagfyr. Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried yn Ionawr ac ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried. 

3.       Bydd y Pwyllgor Polisi a Chyllid yn ystyried ceisiadau am £500 a llai, dwywaith y flwyddyn. Fel arfer, bydd hyn tua dechrau’r flwyddyn ariannol (Mai / Mehefin) a hanner ffordd trwy’r flwyddyn ariannol (Hydref / Tachwedd). 

4.       Mae’r Cyngor Tref yn gofyn i holl ymgeiswyr am gymorth ariannol fod a chyfansoddiad ysgrifenedig a chyfrif banc ar wahân a chyflwyno datganiad archwiliedig o’u sefyllfa ariannol. 

5.       Wedi’r Pwyllgor Polisi a Chyllid ystyried y cais ac i’r Cyngor Tref ei gadarnhau, bydd Clerc y Dref yn gadael i bob ymgeisydd wybod, yn ysgrifenedig, a fu’r cais yn llwyddiannus ai peidio. 

6.       Rhaid i’r arian a roddir i unrhyw fudiad cael ei ddefnyddio, naill ai yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, er budd trigolion ardal ddaearyddol y Cyngor Tref h.y. Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn a Hen Golwyn. 

7.       Cyfrifoldeb y Mudiad yw cyflwyno cais i’r Cyngor Tref.  Ni fydd y Cyngor Tref yn dosbarthu ffurflenni cais. 

8.      Dylai mudiadau fod yn ymwybodol mai dewis y Cyngor Tref yw penderfynu ar unrhyw ddyfarniad a wneir a maint unrhyw ddyfarniad.  Nid yw grantiau yn rhedeg o un flwyddyn i’r llall. Rhaid i’r ymgeisydd datgan os yw cais wedi cael ei wneud / a dderbyniwyd grant gan fudiadau eraill yn cynnwys Cynghorau Lleol eraill, a chyflwyno tystiolaeth o weithgareddau a wnaed eisoes i godi arian. 

9.       Fe ofynnir i unrhyw fudiad / ymgeisydd am grant o £2,000 neu fwy mewn un flwyddyn ariannol, cyflwyno adroddiad ysgrifenedig ar sut cafodd yr arian ei ddefnyddio. Rhaid cyflwyno’r adroddiad o fewn 6 mis o ddiwedd y flwyddyn ariannol y dyfarnwyd y grant (h.y. erbyn 30ain Medi). Os na chyflwynir adroddiad o fewn y cyfnod o 6 mis, gall hyn beryglu pob cais arall yn y dyfodol. 

10.   Bydd grantiau o £1,000 a throsodd a ddyfarnwyd i gynorthwyo efo gwariant refeniw yn cael eu talu mewn dwy ran, yn Ebrill a Hydref, ac efallai bydd unrhyw gais llwyddiannus dilynol yn cael ei leihau o 20% pob blwyddyn er mwyn annog ymgeiswyr i gael ffynonellau ariannol cynaliadwy hir dymor eraill. 

11.   Bydd grantiau o £1,000 a throsodd am bryniant cyfalaf yn cael ei dalu naill ai mewn un neu dwy ran yn ôl dewis y Pwyllgor. 

12.   Dylid anfon ceisiadau Gyngor Tref Bae Colwyn, Neuadd y Dref, Ffordd Rhiw, Bae Colwyn, LL29 7TE ac fe gydnabyddir pob cais.

BAY OF COLWYN TOWN COUNCIL’S CRITERIA FOR CONSIDERING GRANT APPLICATIONS FROM VOLUNTARY AND CHARITABLE BODIES 

1.       All Applications shall be considered by the Policy and Finance Committee.   

2.       The Council must receive all applications of over £500 by the 31st December for awarding grants in the following financial year (after 1st April). These applications will be considered in January and late applications will not be considered.  

3.       The Policy & Finance Committee will consider applications of £500 and less, twice a year.  This will normally be towards the beginning of the financial year (May/June) and midway through the financial year (Oct/Nov). 

4.       The Town Council requires all applicants for financial assistance to have a written constitution and separate bank account and to provide an audited statement of their financial affairs. 

5.       After consideration by the Policy & Finance Committee and ratification by the Town Council, the Town Clerk will inform all applicants, in writing, whether or not their application has been successful.  

6.       Funds given to any organisation must be used to benefit the residents of the geographical area represented by the Town Council i.e. Rhos-on-Sea, Colwyn Bay and Old Colwyn, either directly or indirectly. 

7.       The onus is on the Organisation to submit its application to the Town Council.  The Council will not distribute application forms automatically

8.       Organisations should be aware that any award made and the amount thereof is at the discretion of the Town Council.  Grants are not on-going year on year.  The applicant shall indicate other funding applied for/granted from other organisations, including other Local Councils, and give evidence of fund raising activities already undertaken. 

9.       Any organisation / applicant receiving a grant of £2,000 or more in any one financial year will be required to provide a written report of how the money has been used.  The report must be provided within 6 months of the end of the financial year in which the grant was made (i.e. by 30th September).  If a report is not provided within the 6 month period, all future applications may be placed in jeopardy. 

10.   Grants of £1,000 and over awarded to support revenue expenditure will be paid in two instalments, in April and October, and any subsequent successful application may be reduced by 20% each year to encourage applicants to secure alternative long term sustainable funding sources. 

11.   Grants of £1,000 and over awarded for capital purchases may be paid in either one or two instalments, at the discretion of the Committee. 

12.   Applications should be submitted to the Bay of Colwyn Town Council, Town Hall, Rhiw Road, Colwyn Bay, LL29 7TE and will be acknowledged.

Cysylltwch â Mrs Ros Dudley am ffurflen gais os gwelwch yn dda.   

To request an application form please contact Mrs Ros Dudley. 


CRONFA YMDDIRIEDOLAETH SYR JOHN HENRY MORRIS JONES

Unwaith eto mae Ymddiriedolwyr y Gronfa yn chwilio am geisiadau gan bobl ifanc dan 19 mlwydd oed ar 31ain Mawrth 2013 ac sy’n byw yn ardal hen Fwrdeistref Bae Colwyn fel roedd yn bodoli ar 31ain Mawrth 1974 h.y. Bae Colwyn, Llandrillo yn Rhos, Hen Golwyn, Mochdre a Llysfaen gyda golwg ar ddyfarnu grantiau i bobl sy’n cymwys yn ôl canllawiau'r Ymddiriedolwyr.

Am y flwyddyn 2013, mae’r Ymddiriedolwyr wedi penderfynu dyfarnu grant(iau) i un neu fwy o bobl, a bydd maint y grant ar ddisgresiwn llwyr yr Ymddiriedolwyr. Mae cyfanswm yr hyn a ellir ei ddyfarnu yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Y rheswm am hyn yw’r newidiadau yn y cyfraddau llog a geir ar Falans y Cyfalaf.

Bydd yr ymgeiswyr hyn yn gorfod bodloni’r Ymddiriedolwyr, mewn cyfweliad personol, o’u rhagoriaeth yn un o’r meysydd canlynol: 

A          Celf, Crefft a Cherddoriaeth

B          Chwaraeon

C         Academaidd ac Ymchwil

Ch       Masnach a Fusnes

D         Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dd       Unrhyw faes arall mae’r ymgeisydd yn teimlo y buasai’n cyd-fynd â gofynion yr Ymddiriedolwyr

Yn unol â’r Gweithred Ymddiriedolaeth, ni fydd yr Ymddiriedolwyr yn ystyried ceisiadau am gyrsiau Addysg Uwch neu Addysg Bellach.

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth dan delerau Ewyllys y Diweddar Syr John Henry Morris Jones M.C., D.L., Y.H, a fu yn Meddyg Teulu yn y Dref am lawer o flynyddoedd. Ef hefyd oedd yr Aelod Seneddol am etholaeth Dinbych o 1929 tan 1950, a daeth yn Rhyddfreiniwr er Anrhydedd o Fwrdeistref Bae Colwyn ym 1956. Dymuniad Syr Henry oedd i enillion ei gymynrodd cael ei ddefnyddio er budd y bobl ifanc o hen Fwrdeistref Bae Colwyn. Mae hyn yn cynnwys y bobl hynny sydd yn derbyn addysg llawn amser neu yn cael eu cyflogi y tu allan i’r Fwrdeistref ond efo’u cartref preswyl arferol o fewn ardal hen Fwrdeistref Bae Colwyn 

Cynhelir cyfweliadau yn ystod mis Mai ac fe gyhoeddir y canlyniadau yn ddiweddarach mewn seremoni briodol.

Gellir cael ffurflenni cais oddi wrth Mrs Ros Dudley a rhaid eu dychwelyd erbyn 31ain Mawrth 2013.

SIR JOHN HENRY MORRIS JONES TRUST FUND

The Trustees of the Fund are again seeking applications from young persons under the age of 19 years on the 31st March 2013, and who are residents of the area of the former Borough of Colwyn Bay as it was on 31st March 1974 i.e. Colwyn Bay, Rhos on Sea, Old Colwyn, Mochdre and Llysfaen, with a view to making an award or awards, to eligible persons who are able to meet the criteria of the Trustees. 

For the year 2013, the Trustees have decided to make an Award/s to one or more persons, and the amount of the award made will be at the absolute discretion of the Trustees. The total amount of funds for distribution to the applicants will vary from year to year.  This is due to the variation of interest received on the Capital Balance. 

Such persons will have to satisfy the Trustees at a personal interview, of their degree of excellence in one of the following fields: 

a          Arts, Crafts and Music

b          Sport 

c          Academic and Research 

d          Commerce and Business 

e          Science and Technology 

f           Any other field that the applicants may feel would meet the requirements of the Trustees 

Under the terms of the Trust Deed, the Trustees will not consider applications for courses at Higher or Further Education levels.

The Trust was set up under the terms of the Will of the Late Sir John Henry Morris Jones M.C., D.L., J.P, who was a Doctor of Medicine, practising for many years in the Town.  He was also the Member of Parliament for the seat of Denbigh from 1929 to 1950, and was made an Honorary Freeman of the Borough of Colwyn Bay in 1956.  It was Sir Henry’s wish that the proceeds of his bequest should be used for the benefit of the young people of the old Borough of Colwyn Bay.  This includes persons who are undertaking full time education or employment outside the Borough, but whose normal place of residence is within the area of the former Borough of Colwyn Bay. 

Interviews will take place during May, and the results will be announced at a suitable ceremony later. 

Application forms, to be returned by 31st March 2013 can be obtained from Mrs Ros Dudley.

ELUSENNAU HYNAFOL LLANDRILLO YN RHOS

Ardal Elusennau Llandrillo yn Rhos yw ardal hen Fwrdeistref Bae Colwyn h.y. cyn yr ad-drefnu ym 1974, gan eithrio Llysfaen sydd ag Elusen William Butler, ond sydd yn cynnwys plwyf Bryn y Maen.

HYSBYSIAD

Mae’r Ymddiriedolwyr am roi gwybod i Ymgeiswyr Bwriadus am yr Elusennau RHAID iddynt wneud cais i’r Ymddiriedolwyr neu’r Ysgrifennydd yn y cyfeiriad isod, HEB FOD YN DDIWEDDARACH NA DDYDD LLUN
3YDD RHAGFYR 2012.

Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn 65 mlwydd oed neu yn hŷn ac mae’n ofynnol iddynt ddatgan eu rhesymau dros wneud cais am yr Elusennau a chaiff ceisiadau o’r fath eu hystyried gan yr Ymddiriedolwyr.

YMDDIRIEDOLWYR

· Y Parchedig D Jacks, Y Ficerdy, Ffordd Llandudno, Llandrillo yn Rhos.

· Miss O Daniel, 8, Wern Crescent, Mochdre, Bae Colwyn.

· Mr P. Roberts, 7 Conwy Close, Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn.

· Y Cynghorydd J
Davies, 1, Ffordd Brewis, Llandrillo yn Rhos, LL28 4UA.

· Y Cynghorydd Mrs L Danson M.B.E., 1A, Cranford Court, Abbey Road, Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn.

. Y Cynghorydd Mrs S Roy, 11, Mauldeth Road, Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn.

Gellir anfon ceisiadau ysgrifenedig at Mr
s Tina Earley, Clerc i’r Ymddiriedolwyr.

THE ANCIENT CHARITIES OF LLANDRILLO YN RHOS

The area of the Llandrillo-yn-Rhos Charities is the former Borough of Colwyn Bay

i.e. Prior to re-organisation in 1974, excluding Llysfaen which has the William Butler Charity, but including the parish of Bryn-y-Maen.

NOTICE

The Trustees wish to give notice that Intending Applicants for the Charities MUST make application to the Trustees or the Secretary at the address below, NOT LATER THAN MONDAY
3RD DECEMBER 2012.

Applicants, who must be 65 years of age or over are required to state their reasons for applying for the Charities, and such applications will be considered by the Trustees.

TRUSTEES

· Rev D Jacks, The Vicarage, Llandudno Road, Rhos on Sea.

· Miss O Daniel, 8, Wern Crescent, Mochdre, Colwyn Bay..

· Mr P. Roberts, 7 Conwy Close, Rhos on Sea, Colwyn Bay.

· Councillor J
Davies, 1, Brewis Road, Rhos on Sea, LL28 4UA.

· Councillor Mrs L Danson M.B.E., 1A, Cranford Court, Abbey Road, Rhos on Sea, Colwyn Bay

. Councillor Mrs S Roy, 11, Mauldeth Road, Llandrillo yn Rhos, Colwyn Bay.

Applications can be made in writing to Mr
s Tina Earley, Clerk to the Trustees.

YMDDIRIEDOLAETH ADDYSGOL EDWARDS

Mae telerau’r Ymddiriedolaeth yn rhoi’r hawl i Ymddiriedolwyr yr Elusennau uchod i roi grantiau i rieni disgyblion Ysgolion Cynradd o ardal yr Elusennau a fydd yn symud o Ysgol Gynradd i un o’r Ysgolion Gyfun ar ddiwedd y tymor ac a fuasent yn gwerthfawrogi rhyw faint o gymorth ariannol tuag at y costau ychwanegol a wynebir ar y fath adeg. Bydd pob Ysgol yn yr ardal yn derbyn llythyr ynglŷn â’r Ymddiriedolaeth yn ystod Tymor yr Haf.
 

RHAID i bob cais fod yn ysgrifenedig ac oddi wrth Benaethiaid Ysgolion yn unig, ar ran eu disgyblion.

EDWARDS
EDUCATIONAL TRUST

The Trustees of the above Charities are permitted under the terms of the Trust, to make grants to the parents of pupils from the Primary Schools in the area covered by the Charities who will be passing from Primary School to one of the Comprehensive Schools at the end of the current term, and who may appreciate some financial assistance towards the extra expense which is incurred at this time. All Schools located in the qualifying area will receive a letter regarding the Trust during the Summer Term.

Applications in writing MUST be received from Head-Teachers only, on behalf of their pupils.