Er i mi cael fy ngeni yn Nolgellau, rwyf wedi byw yn ardal Bae Colwyn am y 30 mlynedd diwethaf. Rwy’n briod ac mae gennyf dau fab. Roeddwn yn Swyddog gyda’r Heddlu am dri deg o flynyddoedd gan ymddeol o’m swydd fel Ysgrifennydd Ffederasiwn yr Heddlu yn Ebrill 2002. Roeddwn hefyd yn Ysgrifennydd Cwmni a bûm yn gysylltiedig yn agos iawn â rhedeg Cartref Nyrsio Cofrestredig fy ngwraig yn Llandrillo yn Rhos. Cefais f’ethol i Gyngor Tref Bae Colwyn yn 2004 ac yna i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2006. Mae gennyf amryw o ddiddordebau y tu allan i wleidyddiaeth leol yn cynnwys Rasio Moduron Sefydliad Gyrwyr Safon Uwch Garddio Materion yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg Y Gymdeithas Dinesig Ond yn bennaf, fy nheulu ************************ Although I was born in Dolgellau I have lived in Colwyn Bay area for the last 30 years. I am married with two sons. I was a Police Officer for thirty years and retired from my post as Police Federation Secretary in April 2002. I was also Company Secretary and closely involved with running my wife’s Registered Nursing Home in Rhos on Sea. I was elected to Bay of Colwyn Town Council in 2004 and subsequently to Conwy County Borough Council in 2006. I have a wide range of interests outside local politics including:- Motor sport Institute of Advanced Motoring Gardening Welsh Language issues Civic Society But mostly my family Y DIRPRWY FAERES/THE DEPUTY MAYORESS - MRS SUZANNE EDWARDS Mae Suzanne wedi byw y rhan fwyaf o’i bywyd yn Llandrillo yn Rhos gan fynychu ysgolion lleol. O oedran cynnar iawn bu’n gysylltiedig â rhedeg Cartref Nyrsio’r teulu yn Llandrillo yn Rhos gan ei redeg tan iddi ymddeol yn 2006 ar ôl deugain mlynedd yn y busnes. Mae Suzanne hefyd yn frwdfrydig am rasio moduron ac mae ar hyn o bryd yn dysgu Cymraeg yn Ysgol Bod Alaw. ************************ Suzanne has lived in Rhos on Sea for most of her life and attended local schools. Since a very early age, she has been involved with the family Nursing Home in Rhos on Sea which she ran until her retirement in 2006 after forty years in the business. Suzanne is also a motor sport enthusiast and is currently learning Welsh at Ysgol Bod Alaw. |