|
Fe’m ganed ym Mae
Colwyn a Syr Henry (Dr ar yr adeg hynny) Morris Jones wrth law, fel rwy’n
dallt!
Cefais f’addysgu
yng Nholeg Loreto College, Llandudno am 9 mlynedd cyn mynd i Fangor i astudio
Economeg y Cartref. Yn dilyn cyfnod byr yn y Weinyddiaeth Bwyd, ymunais â’r
Fyddin (A.T.S.) gan roi 4 blynedd o wasanaeth.
O fod yn ifanc
iawn cefais hyfforddiant canu a chenais fel unawdydd ym Mae Colwyn a Bangor a
thra yn y Fyddin yn Sir Gaer a Sir Gaerhirfryn. Ar ôl gadael y Fyddin, priodais
a chefais 4 o blant. Medrais ymdopi â hyn, llawer o anifeiliaid o wahanol faint,
a thŷ a gardd fawr.
Ar yr un adeg,
ymunais ag Ysgol Ramadeg i Ferched Mount Carmel, lle roeddwn yn Bennaeth Adran;
sefydlais lefelau ‘O’ & ‘A’ yn Economeg y Cartref, a hefyd gosod y papurau
arholiad ac arholi yn yr opsiwn Cynllunio arholiad y lefel ‘A’. Yn y cyfnod hwn
llwyddais i ddysgu gyrru (pasio ar ôl 6 wythnos) a chymerais Tystysgrif
Hyfforddiant i Athrawon Addysg Bellach.
Yn Sir Gaer,
roeddwn yn Is-Gadeirydd Cangen Altrincham o Fudiad
Teuluol yn ymdrin
â phob math o broblemau. Pan benderfynais ymddeol ym 1984, dychwelais adref ar
f’union. Yn yr un flwyddyn, ymunais â Chymorth i Luoedd Arfog SSAFA ac rwy’n
parhau i fod yn gysylltiedig â’r mudiad gan fod yn Is-Lywydd Cangen Gogledd
Ddwyrain Cymru. Tan yn ddiweddar, roeddwn yn Ysgrifennydd Rhanbarthol Rhanbarth
Colwyn, swydd y bûm ynddi am y 21 mlynedd diwethaf. Rhoddais gorau i’r swydd er
mwyn rhoi mwy o amser i unrhyw ddyletswyddau dinesig.
Ym 1997,
dyfarnwyd i mi’r M.B.E. am fy ngwaith gyda SSAFA. Yma yng Ngholwyn, rwyf ar hyn
o bryd yn gysylltiedig â:
C.A.B., C.V.S.C.,
Crossroads, W.R.V.S., Llywodraethwr Ysgol Gynradd Llandrillo-yn-Rhos ac
Ymddiriedolaeth Coffa Andrew Fraser. Rwyf hefyd yn noddwr Ysgol Gerddoriaeth
Gogledd Cymru yn Hen Golwyn.
Mae gennyf
ddiddordeb brwd hefyd mewn materion Meddygol a Deintyddol y G.I.G. Rwyf hefyd yn
frwd iawn i Golwyn dychwelyd i’r safon ragorol oedd ganddi yn fy ieuenctid ac
rwyf yn rhan o’r Grŵp Addysg a Sgiliau sy’n gysylltiedig â’r cynllun adfywio.
Mae gennyf syniadau ar gyfer ail-gynllunio ein hardal!
Rwyf o’r farn bod
amser o hyd ar gael i unrhyw un mewn unrhyw fan sydd angen help.
************************
I was born in
Colwyn Bay, Sir Henry (then Dr) Morris Jones was with me I understand!
I was educated at
Loreto College, Llandudno for 9 years, then went to Bangor and studied Home
Economics. After a short time in the Ministry of Food, I joined the Army (A.T.S.)
and had 4 years service.
From a very early
age, I trained as a singer and sang as a soloist in both Colwyn Bay and Bangor
and whilst in the Army, in Cheshire and Lancashire. After demobilisation, I
married and had 4 children. Coped with them, several animals of various sizes,
a large house and garden.
At the same time,
I went to Mount Carmel Grammar School for Girls, where I was Head of Department;
set up ‘O’ & ‘A’ levels in Home Economics, also setting papers & examining in
the Planning option for ‘A’ level exam. During this time I learnt to drive
(passed after 6 weeks) and took a Further Educ. Teachers Training Certificate.
In Cheshire, I
was Vice-Chairman of the Altrincham Branch of a Family Organisation dealing with
all types of problems. When I decided to retire in 1984, I came home
immediately. In the same year, I joined SSAFA Forces Help in which I am still
involved, being Vice-President of the N.E. Wales Branch. Until recently, I was
Divisional Secretary of the Colwyn Division, a post I have held for the past 21
years. I relinquished this office to have adequate time for any civic duties.
In 1997, I was
awarded the M.B.E. for my work with SSAFA. Here in Colwyn, I am presently
involved with:
C.V.S.C.,
Crossroads, W.R.V.S., Governor of Llandrillo-yn-Rhos Primary School & the Andrew
Fraser Memorial Trust. I am also a Patron of the N Wales Music School in Old
Colwyn.
I also take a
keen interest in Medical & Dental matters of N.H.S. I am keenly interested too
in bringing Colwyn back to its excellence of my youth & am in the Education &
Skills Group concerned with regeneration. I have some ideas for re-planning our
area!
It is my belief
that there is always time available, if there is someone, somewhere who needs
help.
Elusen y
Maer am 2007-08/Mayor's
Charity for 2007-08
SSAFA FORCES
HELP
W.R.V.S.
BRITISH
HEART FOUNDATION
|